Aelodaeth

Drwy brynu Aelodaeth Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd byddwch chi’n gallu defnyddio’r holl ystafelloedd ffitrwydd a datblygu’r corff ym Mhrifysgol Caerdydd (yn y Pentref Hyfforddiant Chwaraeon/Canolfan Ffitrwydd a Datblygu’r Corff).

Byddwch chi’n cael sesiwn ffitrwydd ymsefydlu am ddim yn rhan o’ch aelodaeth. Ni fyddwch chi’n gorfod talu ffi ymuno a byddwch chi’n gallu manteisio ar ein rhaglen helaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd sy’n cael eu cynnal yn Stiwdio 49.

Cost yr aelodaeth
Gall myfyrwyr Prifysgol Caerdydd nawr gael £25 oddi ar aelodaeth campfa, sy’n golygu y byddwch chi’n gwneud un taliad o £190 er mwyn cael aelodaeth am weddill y flwyddyn academaidd.
31 Hydref 2024 yw’r diwrnod olaf i fanteisio ar y cynnig Cyntaf i’r Felin.

Mae aelodaeth i fyfyrwyr yn ddilys tan 31 Gorffennaf 2025.
Mae telerau ac amodau yn gysylltiedig â’r aelodaeth.

Gall y rhai a oedd yn aelodau yn 2023/24 glicio yma i gael ragor o wybodaeth am y cynllun aelodaeth teyrngarwch newydd sy’n berthnasol i chi yn unig. Mae modd prynu’r aelodaeth hon ar-lein neu'n uniongyrchol wrth y dderbynfa gan ddefnyddio'ch cyfrif presennol.  Cysylltwch â sport@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Manylion ymuno
Bydd gan bob myfyriwr sy'n dychwelyd (3edd flwyddyn ac uwch)
hyd yn oed os nad ydych chi wedi defnyddio’r gwasanaeth Chwaraeon o'r blaen gyfrif gyda ni eisoes. Nid oes angen i chi gofrestru eto.
Cliciwch y ddolen Ymunwch Nawr isod a dewiswch “cofrestru ar gyfer aelodaeth”.
Pan ofynnir i chi, dewiswch “Oes, mae gen i gyfeiriad e-bost a chyfrinair” a defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost Prifysgol i fewngofnodi.  
Os nad ydych chi’n gwybod (neu wedi anghofio) eich cyfrinair Chwaraeon cliciwch yma i ailosod a defnyddio eich cyfeiriad e-bost Prifysgol llawn.

Myfyrwyr newydd a myfyrwyr yn eu trydedd flwyddyn sydd heb gofrestru o'r blaen
Cliciwch y ddolen isod a dewiswch “Cofrestru ar gyfer aelodaeth” yna dewiswch yr opsiwn myfyriwr.
Gallwch chi ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost allanol os nad yw eich e-bost yn y Brifysgol ar gael eto.
Llenwch y manylion sylfaenol a phan ofynnir i chi a oes gennych chi gyfeiriad e-bost a chyfrinair, dewiswch yr opsiwn “Na, rwy'n gwsmer newydd”
Llenwch y meysydd gofynnol (gan gynnwys eich rhif adnabod myfyriwr) a thalwch i gadarnhau eich aelodaeth.

Gall y rhai a oedd yn aelodau yn 2023/24 glicio yma i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Aelodaeth Teyrngarwch

Unwaith y byddwch chi’n aelod bydd angen i chi osod cyfrinair ar gyfer eich cyfrif ar-lein.
Cliciwch yma i osod/ailosod eich cyfrinair. Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost cofrestredig a roddwyd i ni wrth brynu'r aelodaeth.

Sylwer: wrth dalu am eich aelodaeth, llenwch a gwiriwch yr holl fanylion diogelwch gofynnol gan gynnwys eich cyfeiriad a’ch côd post. Bydd angen y rhain ar eich banc i wirio'r taliad. Os yw'r rhain yn anghywir neu ddim yn cyfateb i'ch cyfrif cofrestredig efallai y bydd darparwr eich cerdyn yn gwrthod y taliad.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach ynglŷn â chael aelodaeth, cysylltwch â'r dderbynfa neu e-bostiwch ni.  
Gallwch chi brynu aelodaeth yn uniongyrchol wrth y dderbynfa hefyd.

Cliciwch yma i osod cyfrinair ar gyfer aelodau newydd
(Cliciwch eto os na fydd y dudalen ailosod yn ymddangos ar unwaith).